Neidio i'r cynnwys

Bryniau Khasia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Khasia)
Bryniau Khasia
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner India India
Uwch y môr1,200 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.58°N 91.63°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd1,999 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddPatkai Edit this on Wikidata
Map
Arwydd yn cofnodi gwlypder eithriadol Cherrapunji

Ardal o fryniau sy'n rhan o gadwyn Garo-Khasi yn nhalaith Meghalaya, gogledd-ddwyrain India, yw Bryniau Khasia (neu Bryniau Khasi). Mae'r bryniau, sy'n gorwedd am y ffin â Bangladesh, yn orchuddiedig â choedwigoedd isdrofannol ac yn gorwedd i'r de-orllewin o Shillong, prifddinas Meghalaya.

Y cenhadwr llwyddiannus cyntaf yn yr ardal oedd Y Parch. Thomas Jones (24 Ionawr 1810 – 16 Medi 1849); ac ef a aeth ati i roi iaith y bobl leol, y Khasieg, mewn sgript Ladin. Yn 2018, cyhoeddodd llywodraeth talaith Meghalaya fod 22 Mehefin (sef y dyddiad pan gyrhaeddoedd Jones Sohra) yn ddathlaid blynyddol sy'n cael ei adnabod fel "Diwrnod Thomas Jones" yn nhalaith Meghalaya.

Mae'r Khasi lleol yn bobl brodorol a roddodd eu henw ar yr ardal, Bryniau Khasia. Yng nghyfnod y Raj Brydeinig, rhennid yr ardal yn sawl teyrnas fechan led-annibynnol yn yr hyn a elwir yn Wladwriaethau Bryniau Khasi/Khasia.

Denodd yr ardal genhadwyr o Gymru yn ail hanner y 19eg ganrif - cyrhaeddodd y cenhadwr Methodus Calfinaidd cyntaf yn 1841 - ac yn enwedig yn y 1910au fel un o sgileffeithiau Diwygiad 1904-1905 yng Nghymru, ac mewn canlyniad mae canran uchel o'r trigolion yn Gristnogion.

Cyfrifir un o drefi Bryniau Khasia, sef Cherrapunji, yn un o'r lleoedd gwlypaf yn y byd.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.