Neidio i'r cynnwys

Wicipedia:Y Caffi

Ychwanegu pwnc
Oddi ar Wicipedia
Sylw diweddaraf: 10 awr yn ôl gan Rhyswynne ym mhwnc Colfran neu ceuled?

Croeso i'r Caffi

Dyma'r lle i chi drafod sut mae pethau'n gweithio yma, polisïau, a phroblemau technegol
a gofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.

  • I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma.
  • I ddechrau pennawd newydd, a theipiwch eich neges.
  • Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair sgwigl (tilde) (~~~~) ar y diwedd.
Coffi
Coffi

Ward etholiadol

[golygu cod]

Dim ond i roi gwybod 'mod i wedi creu cofnod i Ward etholiadol ac felly gellir rhoi dolen fyw i'r holl gofnodion sy'n cynnwys hynny! Rwy wedi rhoi'r dolen fyw i sawl un ond mae cannoedd mae'n siŵr o gofnodion yn cynnwys y term yma. Jyst i'ch hatgoffa bod e ar gael os fyddwch chi'n creu cofnod newydd neu ychwanegu at un sy'n bodoli eisoes. Stefanik (sgwrs) 11:27, 31 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Digwyddiadau dros y haf

[golygu cod]

Dw i jest wedi anfon mas y cylchlythyr ar gyfer Ebrill (tanysgrifio yma, neu weld y cylchlythyr yma). Mae Wici'r Holl Ddaear yn dechrau'n gynnar eleni felly am rheiny sy'n fyw ger Caerdydd bydd Meet Up briodol ar 17eg o Fai. Ym Mehefin mae gennym ni digwyddiad "Hanes Cwiar Cymreig a Wicipedia". Byddwn i wrth fy modd i gynnal rhywbeth rhywle arall yn Gymru felly ga i dynnu'ch sylw i'r rhan ynghylch grantiau ar gyfer gwirfoddolwyr? Er enghraifft, yn anffodus dw i ddim gallu mynd i'r Eisteddfod eleni ond byddai'n wrth fy modd i gefnogi rhywbeth Wici yno (neu ar gyrion y brifwyl). Mae llwyth o wyliau Cymreig gyda chyfleoedd ac wrth gwrs, llawer o syniadau gwych ar gyfer prosiectau ar Wicipedia. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 14:42, 9 Ebrill 2026 (UTC)Ateb

Diolch am drefnu Gemma! Efallai y byddai cynnig costau yn help i godi'r niferoedd yng Nghaerdydd fory hefyd, fel ti'n awgrymu gyda Hanes yr Hoyw Cymreig a Wicipedia. Yn enwedig y dyddiau duon sydd o'n blaen oherwydd Trump a'i griw. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:03, 16 Ebrill 2026 (UTC)Ateb
Sori - dw i ddim yn hollol siŵr os dw i wedi deall eich neges yn llwyr, felly os dw i wedi methu'r point isod, plîs dweud wrthyf i! I wneud fy ngorau i ymateb yn y cyfamser...
Y peth bwysicach - i unrhyw un sy'n bwriadu dod, mae'r Meet up yn digwydd mis nesaf (Mai) nid yfory! Felly paid â throi fyny yfory, mae'r rhagolwg tywydd yn ofnadwy hefyd! (Well i aros gartref a golygu!)
Yn ail - mae'r grantiau ar gyfer gwirfoddolwyr yn ar gael am bob math o ddigwyddiadau a syniadau am unrhyw beth perthnasol i Wici, nid jest digwyddiadau ynghylch materion LHDT+. Sori os oedd hwn ddim yn glir yn fy neges uchod!
Mae modd i wneud cais am grant gwirfoddolwr i rhedeg Meet Up arbennig os bydd gwirfoddolwr sy'n awyddus i drefnu rhywbeth ac yn angen cyllid (e.e. mynediad i arddangosfa). Mae'r grantiau hyd at £250 ac fel arfer tua 2 neu 3 grantiau mewn blwyddyn yw'r terfyn. Felly dydyn nhw ddim rili  ar gael ar gyfer Meet Ups traddodiadol ble mae grwpiau yn gwrdd bob mis, ond maen nhw'n opsiwn.
Fel mae'n digwydd, ges i sgwrs gydag un o fy nghyd-weithiwr am y syniad o dalu am gostau teithio i ddigwyddiadau Wiki am rai sy'n eisiau mynychu (nid jest y trefnwyr). Mae eisoes yn bosib defnyddio rhan o grant gwirfoddolwr i wneud hynny (ond does dim modd 'da ni ar hyn o bryd i wneud hwn lle nad oes grant gwirfoddolwr). Ond byddaf ofyn yn ein cyfarfod nesaf. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:25, 16 Ebrill 2026 (UTC)Ateb
Ie, mis i fory! Gyda 'byddai cynnig costau yn help' ro'n i'n golygu costau teithio, ie - i'r gwirfoddolwyr. Jyst meddwl y byddai nodi hynny'n ysgogi pobl i gymryd rhan. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:39, 16 Ebrill 2026 (UTC)Ateb
Gobeithio bod pawb yn mwynhau'r haul! Ga i ofyn, os yw unrhyw un yn ystyried mynychu ein Meet Up yng Nghaerdydd ar 17eg Mai, plîs rhowch eich enwau ar y dudalen Meta neu anfon e-bost ataf (gemma.coleman at wikimedia.org.uk). Hoffwn wneud yn siŵr bod digon ohonom i'r digwyddiad mynd ymlaen ond ar yr ochr arall, dydw i ddim eisiau i bobl droi fyny heb wybod fy mod i wedi canslo achos doeddwn i ddim yn disgwyl nhw! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 09:33, 9 Mai 2026 (UTC)Ateb

Trefn newydd yr Etholiad

[golygu cod]

Gyda threfn newydd Etholiad y Senedd, mae angen ystyried y wybodlen. Ar en-wici, dim ond enw'r etholaeth sydd ganddyn nhw; syml, dim angen ei newid. Mi wnes i greu system o switsys er mwyn rhoi mwy o wybodaeth - enw'r AS a'i blaid e.e. gw. Comins Coch. Oherwydd y bydd 6 enw o hyn ymlaen (a 6 enw plaid), mae'n fwy cymhleth ond mae nifer y switsys yn mynd i fod yn llai (16 swits / etholaeth). Dyma'r opsiynau, hyd y gwela i: A. Rhoi enw'r Etholaeth newydd yn unig. B. Rhestru'r 6 AS. C. Y ddau

Sylwadau os gwelwch yn dda.

Byddai'n wych cael Categori i bob un o'r 16 etholaeth ar bob lle (pentre, tref, dinas) er mwyn i'r bot osod yr uchod yn daclus ee Categori:Llefydd o fewn Bangor Conwy Môn. Mae rhai'n hawdd e.e. Môn, ond eraill yn anos e.e. Sir Caerffili. Byddaf wedyn yn gafael mewn bats / categori a'i bastio yn y bot. Bydd yn rhaid cyfnewid yr hen gategoriau hefyd ar yr un pryd (Replace CatX gyda CatY). Byddai'n braf hyfforddi rhywun iau i ddefnyddio'r bot (Auto Wiki Browser) e.e. dros Zoom; 1 i 1. Dim gwaith codio! Rhowch wybod. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:11, 21 Ebrill 2026 (UTC)Ateb

Da iawn ti am gychwyn ar hyn. Mae cael llawer o fanylion yn ardderchog, ond weithiau rydyn ni'n gwneud pethau sy'n anodd o ran cynnal a chadw. Felly mi fyddwn i o blaid opsiwn A. Mae llai o gyfle i bethau fynd o chwith.
Gan fy mod i hyd yn oed yn hŷn na thi, fydda i ddim yn tanysgrifio i'r hyfforddiant... Craigysgafn (sgwrs) 11:17, 22 Ebrill 2026 (UTC)Ateb
Baswn i o blaid opsiwn A hefyd ac am gadw pethau yn syml. Rhyswynne (sgwrs) 10:07, 5 Mai 2026 (UTC)Ateb
Corff yr erthyglau

Mae Defnyddiwr:BOT-Twm Crys wedi cychwyn dileu'r paragraffau cyfan yng nghorff pob erthygl - pwy sy'n cynrychioli'r lleoliad yn Senedd Cymru a'r DU; gweler Bryngwyn, Ceredigion er enghraifft. Mae hyn yn dod a dyfnder cywici i lawr gryn dipyn, ond bid a fo am hynny! Y gwybodlenni a'r categoriau yn ystod y dyddiau nesaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:58, 5 Mai 2026 (UTC)Ateb

 Cwblhawyd
Rhowch wybod os ydw i wedi methu un! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Yr etholaethau newydd

Mae angen symlhau sut mae'r wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn yr erthygl Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru; dylai 2026 ddod yn gyntaf. Neu / a chreu erthygl newydd ar y ffiniau / etholaethau newydd. Oes rhywun am wirfoddoli? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb

Dw i'n falch o helpu bob amser. Ond bydd angen iti ddweud wrtha i mewn geiriau unsill beth hoffet ti ei wneud... Craigysgafn (sgwrs) 08:42, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Diolch! Beth am greu erthygl newydd: Etholaethau Senedd Cymru (Mai 2026 ymlaen)? Gelli gopio llawer o'r hyn sydd yn Etholaethau a Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru#Cynigion diwygiedig (Rhagfyr 2024), gan gynnwys y tabl. Newid 'Cynigion diwygiedig' i Yr etholaethau terfynol (neu rhywbeth tebyg). Sorri, mae amser yn brin y dyddiau hyn. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
O'r gorau! Byddaf i'n rhoi cynnig arni! Craigysgafn (sgwrs) 20:19, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Y(r) wybodlen

Mi gychwynai efo'r symlaf: trefi. pentrefi a chymunedau yn newid o Ynys Môn i'r etholaeth newydd: Bangor Aberconwy Ynys Môn. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb

Newidiwyd Aberffraw. Unrhyw sylwadau, neu ymlaen? A beth am y DU? Trafodaeth ar hwn ar ddiwedd yr etholiad ogydd. Un cam ar y tro! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Oes hefyd wedyn newid y swits:
aelod_cymru ={{Swits Ynys Môn i enw Aelod o'r Senedd}} ?Rhyswynne (sgwrs) 13:16, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Oes; disodli (replace ar AWB) yr hen gyda'r newydd e.e. fel hwn Diolch Rhys! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:02, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Dw i wedi gorffen y cyntaf o'r 16 etholaeth: Bangor Aberconwy Ynys Môn. Dw i'n siwr y bydd man bentrefi heb eu newid, a chroeso i chi wneud hynny, neu aros tan fod holl etholaethau Cymru wedi eu botio (!) ac yna chwynu ac ychwanegu. Diolch am eich hamynedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:59, 7 Mai 2026 (UTC)Ateb
Gallwch weld yr etholaethau sydd wedi'u gwneud yma - Categori:Llefydd o fewn Etholaethau Senedd Cymru. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:57, 8 Mai 2026 (UTC)Ateb

Gwybodlen - mae dros hanner llefydd Cymru wedi'u diweddaru, gyda chategori (taclus!) sy'n golygu y bydd ganmil haws eu trin yn y dyfodol, os oes angen. Bydd y gweddill wedi'u gorffen erbyn dydd Mawrth / Mercher. Yn y cyfamser, dw i wedi cuddio'r wybodaeth o'r wybodlen. Llawer o waith da wedi'i wneud gan nifer o olygyddion ddoe ar erthyglau am yr etholiad - fantastig! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:59, 9 Mai 2026 (UTC)Ateb

Wedi 8 mlynedd ar wici, mae pob swits / switch bellach wedi'u dileu a'r wybodaeth, sef enwau aelodau'r senedd ar tua 4,000 o erthyglau naill ai wedi diflannu neu wedi'i newid i'r etholaeth priodol (gw. uchod).  Cwblhawyd
Mae angen twtio pob pentref, aneddle... i gynnwys categori'n nodi ym mha etholaeth y maent. O wneud hyn, bydd hi gan-mil haws newid y wybodaeth yn y dyfodol. Top tip: defnyddiwch AWB i ychwanegu / newid categoriau ar lawer o erthyglau hy torfoli gydag un clic dwsinau o erthyglau. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:11, 3 Mehefin 2026 (UTC)Ateb

Digwyddiadau Mehefin a Gorffennaf

[golygu cod]

Dw i wedi cael “flurry” bach o bobol sy’n eisiau i fi i roi gwybod i Wicipedwyr Cymraeg am eu digwyddiadau.

- Ar Ddydd Sadwrn bydd golygathon ar-lein gan Gymraes hyfryd (Ceryl) i wella cynnwys ynghylch menywod y Tŵr Eiffel. Felly os dwyt ti ddim yn mynd i Tafwyl, (neu eisiau gwneud tamaid bach o Wiki cyn mynd mas) dw i’n siŵr byddai hi wrth ei bodd i weld Wicipedwyr Cymraeg yna - manylion llawn at https://www.eventbrite.co.uk/e/women-of-the-eiffel-tower-edit-a-thon-tickets-1990315293621?aff=oddtdtcreator  

- Mae'r sesiynau Blwch Tywod Cymunedol yn cychwyn yn ôl ar y 15fed o Orffennaf, gyda'r un cyntaf yn sôn am gyfieithu erthyglau - https://meta.wikimedia.org/wiki/Event:WMUK_Sandbox_Sessions/Hints_and_tips_on_the_translation_of_articles_15.07.26

(Hefyd, peidiwch ag anghofio bod Wici'r Holl Ddaear yn dod i ben yn gynnar eleni felly dim ond tan y 30ain o Fehefin sydd gennych i uwchlwytho eich delweddau.) Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:54, 17 Mehefin 2026 (UTC)Ateb

Anghofiais ddweud, dyma'r tasgau sydd ar ôl ar ôl ein digwyddiad "Hanes LHDT+ Cymreig" yr wythnos diwethaf os oes gan unrhyw un yma ddiddordeb mewn mynd i'r afael â rhai ohonyn nhw! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:48, 23 Mehefin 2026 (UTC)Ateb
Sori, un peth olaf! Mae rhai ohonoch chi wedi sôn y byddai'n braf i gwrdd â golygyddion eraill sy'n siarad Cymraeg, felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n gweld a allwn i drefnu "Meet Up" Cymraeg ar-lein ym mis Gorffennaf. Os oes diddordeb, plîs nodwch eich argaeledd yn y pôl. Os gallaf gael 5 ohonom at ein gilydd ar unrhyw un o'r adegau hynny, byddaf yn mynd ymlaen, os na, byddaf yn ceisio eto yn yr hydref. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:00, 24 Mehefin 2026 (UTC)Ateb
Dw i ddim ar gael yr wythnos yna'n anffodus, ond baswn i'n gwerthfawrogi cyfle i sgwrsio tro nesa! R Llygad Ebrill (sgwrs) 14:10, 24 Mehefin 2026 (UTC)Ateb

Cyfarfod-byw 23ain Gorffennaf 11yb - 12yh ar-lein

[golygu cod]

Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd amser sy'n siwtio 5 ohonom felly cynhelir ein "Meet Up yn y Gymraeg" ar 23ain Gorffennaf rhwng 11yb i 12yh. E-bostio fi i gael gwahoddiad Google neu'r ddolen i ymuno yw https://meet.google.com/ina-tpmz-vmx?authuser=0&hs=122 Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 15:58, 6 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Dwi'm ond newydd ddechrau cyfrannu at Wici. Oes croeso i unrhywun ymuno â'r sgwrs neu yw e'n rywbeth ar gyfer defnyddwyr mwy profiadol? Carlwm (sgwrs) 16:04, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Oes - mae croeso mawr i bawb sy'n golygu Wici! Bydd yn hyfryd i gwrdd â chi :) Hefyd, yn ddelfrydol byddwn ni'n yn cael cymysgwch o olygyddion, rhai newydd, rhai profiadol a rhai sydd ddim wedi golygu am sbel. Mae fy nghyfeiriad e-bost yw gemma.coleman@wikimedia.org.uk os hoffech chi gael gwahoddiad calendr drwy Google. Ac unrhyw gwestiynau, gofyn yma neu anfon e-bost ataf. Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 16:34, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Diolch Gemma! Fe wnai fy ngorau i ymuno. Carlwm (sgwrs) 19:52, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Dyma'r "agenda" awgrymedig ar gyfer y Meet Up Ddydd Iau am rheiny sy'n hoffi cael rhyw fath o syniad beth i ddisgwyl. (Fodd bynnag, ar y diwrnod byddaf yn hyblyg dibynnu ar y dymuniadau o rheiny sy'n mynychu.) Gallaf anfon gwahoddiad Google i unrhyw un sy'n moyn un, neu weler uchod am y ddolen i ymuno.
11 - 11.15 - cyflwyniadau (enw, beth ydych chi'n hoffi gwneud ar Wici, pa mor hir ydych wedi bod yn olygydd)
11.15 - 11.30 - lle i drafod syniadau wedi'u rhannu gyda Gemma yn barod - unrhyw ddiddordeb i gymryd rhan? (parti pen-blwydd, diweddaru'r tudalennau tiwtorial, creu prosiect i wella erthyglau perthnasol i'r cwricwlwm)
11.30 - 11.50
- lle agored i olygyddion rhannu syniadau, digwyddiadau, gofyn am help a.y.b.
11.50 - 12 lle am "AOB" neu adborth am beth oedd yn ddefnyddiol a beth fyddai'n ddefnyddiol y tro nesaf Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 10:47, 21 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Erthygl ddwbl?

[golygu cod]

Helo pawb. Dwi'n credu bod y'r erthyglau isod yn gyfeirio at yr un lle, ond eisiau sieco cyn uno nhw. Ydy pawb yn cytuno?

  1. Bwlch Llyn Bach
  2. Bwlch Talyllyn

Jason.nlw (sgwrs) 15:33, 7 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Cytuno mai'r un lle sydd dan sylw. Dw i'n meddwl mai Bwlch Llyn Bach yw'r enw cywir (gw https://eryri.llyw.cymru/llwybrau/cefnen-waen-oer/ er enghraifft), ond awgrymu cadw ..."neu Fwlch Tal y Llyn" yn y frawddeg gynta Llygad Ebrill (sgwrs) 23:18, 14 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Cytuno; ail-gyfeiriwyd.   Llywelyn2000 (sgwrs) 05:59, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Dolenni marw ar erthyglau natur

[golygu cod]

Mae llwyth o erthyglau byr ar rywogaethau planhigion ac anifeiliaid, a phob un yn anffodus â dolen farw yn dilyn y patrwm:

Mae'r ddolen "http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/?q=node/6" yn arwain at dudalen 404 farw. Enghraifft ar hap: Isosticta tillyardi.

Dylid o leiaf arallgyfeirio at https://llennatur.cymru/y-bywiadur, ac yn ddelfrydol gwirio bod cofnod cyfatebol yn y Bywiadur (nid yw'r tillyardi yn y Bywiadur er enghraifft). Dwi wedi trwsio rhai â llaw, ond mae cannoedd os nad miloedd o erthyglau tebyg! Oes na ryw fot neu declyn allai wneud "find and replace" ar y ddolen farw? Carlwm (sgwrs) 21:41, 14 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Diolch @Carlwm: Fi wnaeth y cod gwreiddiol a'u rhoi i Sian E J a Chell Danwydd i'w cyhoeddi, mae'r ddau bellach wedi ymdeeol o wici (a finau'n rhanol), ond mae'n ymddangos fod Dewi Jones oedd yn gyfrifol am god Llen Natur wedi symud y wefan o hen drefn Drupal (mae wedi dropio drupal!). Gen i mae'r unig fot cynhenid i cy-wici, sef Defnyddiwr:BOT-Twm Crys. Byddai'n gret pe bai rhywun arall yn meithrin y sgiliau angenrheidiol a gwneud cais yma ar y caffi i redeg bot arall.
Felly, gallaf newid
http://www.llennatur.com/Drupal7/llennatur/?q=node/6
a https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur
[ac unrhyw fersiwn arall, tebyg?]
i:
www.llennatur.cymru/y-bywiadur
Awgrymaf ddileu'r https://. @Dafyddt: be ti'n feddwl?
Ar yr un pryd, gallaf ddileu: {{Dolen marw|date=June 2026 |bot=InternetArchiveBot |fix-attempted=yes }} yn llwyr.
bydd hyn yn parchu enw'r erthygl ar wici / yr enw ar y Bywiadur, ac felly'r ddolen. Os nad oes cyfeiriad ar y Bywiadur (e.e. tillyardi), dw i ddim yn siwr be fedrwn ei wneud. Enwau Lladin fydd y rhain, efallai y medraf eu canfod wrth gynaeafu enwau'r erthyglau gyda'r bot. Os nad, yn bersononol dw i ddim yn meddwl ei fod yn broblem fawr. bydd y ddolen yn arwain at wefan y Bywiadur ac yn nodi nad oes cyfeiriad / cofnod am y gair hwnnw.
Be ti'n feddwl Carlwm? Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 14:00, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Diolch yn fawr @Llywelyn2000. Cytuno nad yw hi'n ormod o broblem petai'r enwau Lladin di-gofnod yn arwain at y Bywiadur hefyd. Y peth pwysig yw codi'r ddolen o farw'n fyw. Pob hwyl i'r BOT yn ei waith!
Mae gen i rywfaint o sgiliau sgwennu côd felly base gen i ddiddordeb dysgu mwy am gynnal a chadw botiau. Af i ymchwilio ymhellach... Carlwm (sgwrs) 16:46, 22 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Cymorth technegol

[golygu cod]

Dw i wedi gofyn am help yma. Dw i wedi ceisio dilyn yr ateb, ond oeddwn i ddim wir yn deall beth i'w wneud. Oes unrhywyn yn gallu helpu? Deb (sgwrs) 13:45, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Ydy'r broblem yn dal i ddigwydd, Deb? Carlwm (sgwrs) 22:34, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Ydych chi'n gwybod?

[golygu cod]

Helo, hoff gydweithwyr,

Yr wyf yn gwirfoddolwr newydd sydd wedi bod yn darllen Wicipedia ers tro, ac rwyf wedi sylwi nad oes gan yr adran Gymraeg adran “Ydych chi'n gwybod?” ar y dudalen flaen. Mewn llawer o ieithoedd eraill, mae hyn yn un o'r rhesymau mwyaf i bobl glicio ar erthyglau, darllen mwy, a darganfod pethau newydd.

Hoffwn awgrymu sefydlu “Ydych chi'n gwybod?” yma – yn syml ar y dechrau, heb fod angen robotiaid na pholisïau cymhleth. Byddai’n gweithio fel hyn:

  • Rydym yn creu tudalen baratoi (ee Wicipedia:Ydych chi'n gwybod/Paratoi) lle gall pawb awgrymu ffeithiau diddorol, yn ddelfrydol o erthyglau sydd newydd eu creu neu wedi'u diweddaru.
  • Rydym yn dewis y ffeithiau mwyaf diddorol a'u rhoi mewn blwch ar y dudalen flaen (er enghraifft, 12 ffaith, newid bob pythefnos).
  • Dylai ffeithiau fod yn annisgwyl, yn gyferbyniol, neu’n absẃrd – fel hyn: “Gall crocodeil achosi damwain awyr.” (Mae hyn yn ffaith go iawn, gyda ffynhonnell – ac yn gwneud i chi eisiau clicio i ddarllen mwy!)

Nid wyf yn gofyn am unrhyw beth cymhleth: mae gennyf amser ac awydd i helpu gyda chyfieithiadau, awgrymiadau a chynnal y dudalen. Byddai’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan y gymuned leol, wrth gwrs, ond rwy’n gallu bod yn gymorth cychwynnol.

Hoffem wybod a yw hyn yn rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb ynddo? Byddai unrhyw awgrymiadau neu sylwadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Diolch am ddarllen, Spedbird (sgwrs) 20:47, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Mae'n swnio fel syniad da i mi o leiaf, @Spedbird. Byddwn i'n cynnig falle dechrau gyda llai o ffeithiau (6 bob mis?) gan fod nifer y golygyddion rheolaidd yn ymddangos yn weddol isel, a digon posib na fyddai gan bawb amser i weithio ar ffeithiau newydd. Dwi'n go newydd fan hyn hefyd, ond dyna'r teimlad dwi'n ei gael. Carlwm (sgwrs) 21:15, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Llongyfarchiadau i ti ar dy frwdfrydedd, Spedbird! Dw i'n edrych ymlaen at dy gyfraniadau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud bod yr adran "Did you know?" o enwiki yn ei ffurf bresennol yn rhywbeth rwy'n ei gasáu'n llwyr. Fel arfer, dw i wrth fy modd â trivia, ond mae'r adran honno'n llawn pethau sy'n anniddorol, neu'n amlwg, neu'n ddi-chwaeth. Efallai y gallen ni wneud y peth yn well yma ar cywiki, ond byddai'n gofyn am lawer o ymdrech. --Craigysgafn (sgwrs) 22:26, 24 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
  • Dwi'n falch bod y syniad wedi apelio atoch chi, @Carlwm @Craigysgafn. Rwyf wedi creu prif dudalen y prosiect yma: Wicipedia:Ydych chi'n gwybod. Mae croeso i bawb ei gwella a'i ddatblygu ymhellach. Yn fuan, byddaf yn creu tudalen baratoi ar gyfer awgrymiadau ac yn cyfieithu ychydig o erthyglau i gychwyn y casgliad. Hefyd, hoffwn wybod pwy ddylwn i gysylltu â nhw i drafod gosod y blwch "Ydych chi'n gwybod?" ar y dudalen flaen pan fydd popeth yn barod? Diolch am y gefnogaeth! Spedbird (sgwrs) 06:40, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
    Yn lle cyfieithu erthyglau, beth am ddefnyddio rhai sydd gyda ni'n barod? Mae llawer o waith yn cael ei wneud yma i ysgrifennu erthyglau newydd yn Gymraeg sy'n cynnig rhyw bersbectif gwahanol i beth sydd ar en-wiki. Beth am...
    - ...cafodd y wefan Gymraeg gyntaf ei lawnsio ym 1995?
    - ...fod Seintiau Aberdyfi, cŵn duon Dinbych a merlod Hafnant yn fathau o gwmwl?
    - ...fod pobl yn yr Oesoedd Canol yn llyncu perlau er mwyn trin salwch?
    - ...taw yn Llanystumdwy oedd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru, a bod y pentrefwyr wedi ceisio eu taflu mewn i'r afon?
    - ... mai "Gwenwyn" gan Alffa oedd y gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd 1 miliwn ffrwd ar Spotify?
    Gyda llaw, dwi'n cytuno i raddau â @Craigysgafn fod y ffeithiau ar en-wiki yn gallu bod braidd yn ddi-chwaeth. Baswn i'n rhoi'r crocodeil yn y categori hwnnw yn anffodus (bu farw 20 o bobl, ddim yn hir iawn yn ôl). Carlwm (sgwrs) 10:36, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Diolch am y syniadau ardderchog, Carlwm! Mae dy awgrymiadau di'n wych, yn enwedig y rhai am y cymylau, y perlau, a phrotest y Swffragetiaid yn Llanystumdwy - mae'r rhain yn union y math o ffeithiau annisgwyl sy'n gweithio orau yn yr adran hon. O ran y crocodeil - dwi'n deall y pryder, ond mae ffaith am grocodeil yn achosi damwain awyr yn dal i fod yn rhyfeddol o annisgwyl a chyferbyniol. Yn fy mhrofiad i, mae ffeithiau o'r fath yn aml yn denu sylw darllenwyr, hyd yn oed os yw'r pwnc yn drist. Mae'r dudalen baratoi bellach ar gael yma: Wicipedia:Ydych chi'n gwybod/Paratoi. Byddai'n wych pe gallech chi ychwanegu'ch awgrymiadau yno - ychydig o ffeithiau da fydd yn dechrau'r casgliad yn wych! Spedbird (sgwrs) 10:51, 25 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Iawn @Spedbird, mi wna i ychwanegu cwpl o syniadau toc, ac fe gewn ni weld os oes diddordeb gan unrhywun arall.
Sut mae dewis y ffeithiau wedyn? Byddai'n dda cael o leiaf un person arall i "eilio" ffaith (a hawl i bobl "wrthwynebu" hefyd mae'n siŵr! Os oes anghytuno, byddai angen mwy o "eilwyr" na "gwrthwynebwyr"). Oes gen ti syniad yn barod am sut i wneud? Carlwm (sgwrs) 22:53, 26 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb
Mae'n ddrwg gen i am yr oedi cyn ateb. Mae'n ymddangos bod rhaid aros nes bod mwy o gyfranogwyr yn dangos diddordeb yn y prosiect cyn y gellir datrys y mater hwn. Yn anffodus, mae gen i lwyth o bethau i'w gwneud ar hyn o bryd, felly fydd dim cyfle i mi gydlynu'r prosiect yn y dyddiau nesaf, mae'n ddrwg gen i. Spedbird (sgwrs) 10:29, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

Golygiadau diweddar gan ddefnyddiwr anhysbys

[golygu cod]

Mae defnyddiwr anhysbys yn gwneud golygiadau braidd yn anarferol ers echddoe: bathu enwau 'Cymraeg' ar gyfer llefydd ar hap gan ddisodli'r Saesneg arferol (e.e. "Caerwerth" am Fort Worth, Texas), troi Cymraeg safonol yn or-hen-ffasiwn (e.e. "Canys ddatganoledig yw iechyd" am "Gan fod iechyd wedi'i ddatganoli" ar Rhestr o fideos gan Lywodraeth Cymru am Covid-19), a chyfieithiadau sy'n gamddealltwriaeth llwyr (e.e. "Gweithfeydd tân" am Tân gwyllt). Mae'r rhestr lawn fan hyn.

Rwy'n gwrthdroi'r golygiadau sy'n amharu ar synnwyr yr erthygl, ac yn gweld fod eraill yn gwrthdroi hefyd, ond mae golygiadau tebyg yn dal i ymddangos. Tebyg iawn fod y defnyddiwr yn ceisio helpu! Falle gallai ymateb yma i ddechrau sgwrs? Piti iddo/i hala amser yn gwneud golygiadau sy'n cael eu dadwneud.

O.N. fel defnyddiwr newydd fy hunan, dwi'n ansicr o'r etiquette fan hyn - os nad yw hyn yn bwnc addas i'r Caffi mi wnai ddileu. Carlwm (sgwrs) 15:13, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

I ddechrau: diolch am dy gyfraniad amhrisiadwy, Carlwm! Fyddwn i ddim yn petruso cyn gwrthdroi'r holl bethau hyn. O bryd i'w gilydd mae gennym ni ddefnyddiwr anhysbys sy'n "cyfieithu" enwau lleoedd Saesneg i'r Gymraeg. P'un a yw hyn o ddryswch neu mewn ysbryd o ddrygioni, alla i ddim dyfalu. Weithiau mae defnyddiwr anhysbys yn gwneud newidiadau defnyddiol, ond dylet ti bob amser fod yn amheus os gwneir y rhain heb esboniad. Diolch am y rhestr. Byddaf i'n eu trwsio. Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 16:24, 28 Gorffennaf 2026 (UTC)Ateb

A message from Llydaw

[golygu cod]

Hello and sorry for writing in English,

A former user of the Breton wikis, now blocked indefinitely, who went by Bianchi-Bihan and many other usernames, is contributing to the Welsh Wiktionary using temporary accounts and the account Dynolydaw (no ChekUser was performed but he has his very own style). I am posting here because I don’t see much activity there besides his, and no admins. The issue is that the quality of his contributions is rather poor : some pages are clearly not proofread (see e.g. wikt:sac'h and wikt:sac'h-kousket with no closing parentheses), wikt:kemm with an example in Welsh for a Breton word, etc. FYI he made a total mess (much worse than these examples) of the Breton Wiktionary, which is currently being cleaned up, and he seems to have found a new home in the Welsh Wiktionary. I am leaving it up to you to decide what do to, or not to do. Have a nice day. Huñvreüs (sgwrs) 16:21, 5 Awst 2026 (UTC)Ateb

Colfran neu ceuled?

[golygu cod]

Helo, wedi sgwennu cofnod am "Colfran" https://cy.wikipedia.org/wiki/Colfran Y drwg yw bod y gair "ceuled" yn dod lan yn amlach na "colfran" ar gyfer 'curd' yn Gymraeg. Dwi'n hapus iawn i gael fy nghywiro. Dydy ddim yn glir i mi (wrth edrych ar y gwahanol eiriaduron a therminaduron) pa un sy' gywir, er bod ceuled yn fwy poblogaidd. Dydy ddim yn glir chwaith os yw colfran/ceuled hefyd yn golygu 'rennet' yn Gymraeg. Hapus i eraill fy nghywiro neu gywiro/newid yr erthygl. Cofnod aeth yn fwy cymleth nag oeddwn i'n ddisgwyl! Dyna ddysgu gwers.Stefanik (sgwrs) 16:14, 11 Awst 2026 (UTC)Ateb

Ia, mae'n rhwystredig pan mae mwy nag un gair am yr un peth yn cael ei gynnig, ac yn yr un modd pan mae eu gair yn cael ei gynnig am sawl peth gwahanol! Newydd edrych ar BydTerm y Llywodraeth, ac mae'r tri canlynol yn cael stats B (A - pendant, B - gweddol saff, C - bach yn dodji): curd (o laeth) = colfran; rennet = cywair llaeth; a bean curd (tofu) = ceuled ffa. Rhyswynne (sgwrs) 08:51, 12 Awst 2026 (UTC)Ateb