Canolfan hamdden
| Math | canolfan gymunedol |
|---|---|
| Dynodwyr | |
Mae canolfan hamdden neu canolfan chwaraeon yn adeilad pwrpasol. Fel rheol mae'n eiddo i, ac yn cael ei ddarparu gan, yr awdurdod llywodraeth leol, lle gall pobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon a chadw'n heini.[1]
Roedd oddeutu 500 canolfan ffitrwydd ac iechyd, sy'n cynnwys canolfannau hamdden dan reolaeth awdurdod lleol, yng Nghymru yn 2024.[2]
Cyfleusterau nodweddiadol
[golygu | golygu cod]

Mae cyfleusterau fel arfer yn cynnwys pwll nofio, neuadd chwaraeon fawr, a champfa, a gallant gynnwys: stiwdios aerobics, stiwdio seiclo un-fan dan do, campfa codi pwysau, cyrtiau sboncen, badminton, caffi, bar trwyddedig, caeau glaswellt awyr agored a/neu artiffisial ar gyfer pêl-droed, hoci ac ati, solariwm, sawna a/neu ystafell stêm. Gall rhai o'i swyddogaethau orgyffwrdd â swyddogaethau canolfan gymunedol.
Mae canolfannau hamdden yn cael eu staffio gan weithwyr sy'n cyflawni amrywiaeth o dasgau i helpu a goruchwylio'r bobl sy'n defnyddio cyfleusterau. Gall rhain gynnwys gweithredu fel achubwyr bywyd pwll nofio, hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr chwareon, gan gynnig cyngor, cymhelliant ac arbenigedd i ddefnyddwyr. Yn aml, mae canolfannau hamdden yn cael eu gweithredu gan gwmnïau preifat ar gontract i'r awdurdod lleol.
Gelwir rhai canolfannau hamdden, yn enwedig yn Awstralia, yn ganolfannau dyfrol ('aquatic centres'), os yw eu prif gyfleusterau yn byllau nofio, deifio, a chwaraeon dyfrol eraill.
Canolbwynt gymunedol
[golygu | golygu cod]Dyweir bod canolfannau hamdden yn ganolbwynt i gymunedau gan roi man i bobl o bob oed, ond yn enwedig pobl ifanc, i fwynhau eu hunain mewn awyrgylch saff. Serch hynny, mae cost cynnal canolfannau hamdden yn gallu achosi awdurdodau sy'n eu rhedeg i'w cau i arbed arian pan fo' cyllidebau'n dynn, neu i drosglwyddo rheolaeth neu berchnogaeth cyfleuster hamdden i grŵp gwirfoddol, trydydd sector neu gymunedol, proses a elwir yn drosglwyddo asedau cymunedol yn y Deyrnas Gyfunol.[3] Nodir pwysigrwydd canolfannau hamdden nid yn unig fel adnodd gymunedol a chymdeithasol ond fel lle i wella iechyd a dysgu sgiliau gwerthfawr fel y gallu i nofio.[4]
Costau rhedeg
[golygu | golygu cod]
Mae canolfannau hamdden yn gyfleusterau ynni-ddwys. Mae dadansoddiad o ddata ystadegol yn dangos bod canolfan hamdden mwy o faint sydd â phwll nofio angen mwy na dwy filiwn kWh o nwy naturiol a mwy na hanner miliwn kWh o drydan y flwyddyn ar gyfartaledd. Roedd hyn yn cyfateb i gostau o hyd at £0.5m yn 2023 yng Nghymru - mwy na dwywaith yn fwy nag mewn blynyddoedd blaenorol. Ar wahân i'r goblygiadau cost sylweddol, mae canolfannau hamdden yn cyfrannu'n sylweddol at ôl troed carbon awdurdod lleol sy'n dod yn bwysicach i randdeiliaid. Dyma un rheswm hefyd dros y wasgfa ariannol sydd ar gau canolfannau hamdden lleol.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]- Canolfan Hamdden Plascrug - arwydd ffynnon ddŵr
- Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth - campfa codi pwysau
- Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth - arwydd pwll nofio
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Canolfan Hamdden Plascrug, Aberystwyth enghraifft o ganolfan hamdden o faint canolig yng Nghymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Section 965: sports and leisure centres (private) - Rating Manual section 6 part 3: valuation of all property classes - Guidance - GOV.UK". www.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-12.
- 1 2 "Datgarboneiddio canolfannau hamdden y sector cyhoeddus yng Nghymru" (PDF). Llywodraeth Cymru. 2023. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Trosglwyddo Asedau Cymunedol: canllawiau i ymgeiswyr". Llywodraeth Cymru. 3 Hydref 2019. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Canolfannau hamdden 'i ddiflannu o gefn gwlad heb fwy o arian'". BBC Cymru Fyw. 21 Tachwedd 2024.