Trefor Jenkins
| Trefor Jenkins | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Gorffennaf 1932 Ynysowen |
| Bu farw | 2 Gorffennaf 2025 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | genetegydd |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Aelod o Academi Gwyddoniaeth De Affrica, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol De Affrica |
Roedd Trefor Jenkins (24 Gorffennaf 1932 – 2 Gorffennaf 2025) yn genetegydd dynol o Gymru, yn adnabyddus am ei waith blaengar ar DNA. Roedd yn ddeon yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Witwatersrand, De Affrica.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yng Nghwm Taf: rhwng Ynysowen (Merthyr Vale) a ac Aberfan. Roedd yn dod o deulu dosbarth gweithiol gyda chefndir glofaol pendant. Aeth i Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr lle cyfarfu a'i ddarpar wraig Ada; priododd y ddau yn 1956. Roedd bob amser yn cyfri ei hun yn gynnyrch system addysg Gymreig gref. Mewn cyfweliad yng Nghaerdydd, soniodd am ba mor uchel oedd safon yr addysg yn y cymoedd er gwaethaf tlodi'r ardal, ac am gyd-ddisgyblion enwog fel Bernard John (a ddaeth yn Athro Botaneg) a Syr Ronald Mason (Cynghorydd Gwyddonol Prif Weinidog y DU) - y ddau o'r un ardal.[1]
Ceisiodd Jenkins gael lle i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd, ond methodd, ac felly gwnaeth gais i astudio yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Yno, cymhwysodd mewn meddygaeth ac yna yn Ysbyty Westminster, hefyd yn Llundain. Aeth i Affrica fel swyddog meddygol mewn gwaith mwyngloddio yn Ne Rhodesia ym 1960 lle daeth ar draws anemia cryman-gelloedd (sickle cell anaemia) am y tro cyntaf a chynheuwyd ynddo ei ddiddordeb mewn geneteg.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Cymru
[golygu | golygu cod]Cwblhaodd Jenkins (a oedd yn heddychwr) ei Wasanaeth Milwrol rhwng 1957-59 (ym Myddin Lloegr, gyda chatrawd 'y Buffs', wedi'i leoli yng Nghaergaint). Wedi iddo orffen y gwasanaeth hwnnw, dychwelodd i weithio yng Nghymru, gyda'i deulu ifanc:
- Ysbyty Mount Pleasant, Abertawe - treuliodd tua chwe mis yno'n gweithio ym maes obstetreg, gan ennill profiad ymarferol o eni a gwella babanod. Yna, cafodd swydd yn:
- Ysbyty Treforys - bu yno am bron chwe mis arall, y tro hwn yn gwneud gwaith anesthetig.
Ar ddiwedd y cyfnod hwn yng Nghymru cafodd gyfweliad gyda chwmni mwyngloddio Anglo American (drwy gyswllt cyfyrder ei wraig, a oedd yn feddyg yn Rhodesia), a glaniodd yn Ysbyty Glofa Wankie, gyda'i deulu, yn Ne Rhodesia yn 1960.
Affrica
[golygu | golygu cod]Cyfrannodd Jenkins yn sylweddol at wybodaeth am farcwyr genynnau mewn gwahanol boblogaethau trwy ei waith ar eneteg grwpiau gwaed a pholymorffismau DNA, a helpodd i egluro tarddiad grwpiau brodorol yn Affrica. Astudiodd hefyd anemia cryman-gelloedd ac albiniaeth ar lefel foleciwlaidd. Cyhoeddodd ei waith a chydweithiodd gyda gwyddonwyr eraill mewn dros 300 o bapurau a dau lyfr.
Moeseg feddygol
[golygu | golygu cod]Arloesodd Jenkins hefyd drwy arwain prosiect addysgu gyda'i israddedigion mewn Moeseg Feddygol ym Mhrifysgol Witwatersrand a gwnaeth gyfraniadau sylweddol yn y maes hwn, yn enwedig yng nganlyniadau moesegol bioleg foleciwlaidd. Roedd Jenkins hefyd yn ymgyrchydd hawliau dynol, ac yn un o chwe meddyg a gwestiynodd foeseg y sefydliad meddygol a llywodraeth flaenorol De Affrica ar ôl marwolaeth Steve Biko, gweithredwr gwrth-apartheid ym Medi 1977.
Ymddeol a marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ymddeolodd Jenkins o ddyletswyddau athro llawn amser ym 1997, ond parhaodd i addysgu ym Mhrifysgol Witwatersrand a gweithio yn Adran Geneteg Dynol y Gwasanaeth Labordy Iechyd Cenedlaethol.[2] Jenkins oedd pennaeth yr Adran Geneteg Dynol, yr Ysgol Batholeg, yn hen Sefydliad Ymchwil Feddygol De Affrica ac ym Mhrifysgol Witwatersrand, rhwng Mehefin 1975 a Medi 1998. Roedd yn athro emeritws ac yn gymrawd ymchwil ac athro anrhydeddus yn ogystal â darlithydd anrhydeddus mewn biofoeseg.
Bu farw Jenkins ar 2 Gorffennaf 2025, yn 92 oed. [3]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Biko i Guantanamo: 30 mlynedd o ymwneud meddygol ag artaith David J Nicholl, Trefor Jenkins, Steven H Miles, William Hopkins, Adnan Siddiqui, Frank Boulton, ar ran 260 o lofnodwyr eraill The Lancet - Cyfrol. 370, Rhifyn 9590, 8 Medi 2007, Tudalen 823
- Y berthynas Steve Biko Trefor Jenkins, GR McLean The Lancet - Cyfrol. 364, Rhagfyr 2004, Tudalennau 36–37
- Chwilio am Darddiad Gwyddoniaeth, Hanes a 'Chrud Dynoliaeth' De Affrica : Phillip Bonner, Trefor Jenkins, Amanda Esterhuysen (Ebrill 2008)
- Pobloedd De Affrica Astudiaethau mewn Amrywiaeth a Chlefydau Trefor Jenkins, Sefydliad Astudio Dyn yn Affrica (Ionawr 1988)
- Pobloedd De Affrica a'u Perthnasau JS Weiner, George T. Nurse, Trefor Jenkins (Mawrth 1986)
- Iechyd a'r Heliwr-Gasglwr Astudiaethau Biofeddygol ar Boblogaethau Hela a Chasglu De Affrica George T. Nurse, Trefor Jenkins (Ionawr 1977)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfweliad a gynhaliwyd gan Peter Harper (Prifysgol Caerdydd) ar 10 Hydref 2007, fel rhan o brosiect Hanes Genynneg Feddygol Ewropeaidd (European Society of Human Genetics).
- ↑ "Academy of Science of South Africa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2007. Adalwyd 8 Mehefin 2008.
- ↑ "Farewell to a pioneer in South African science – ASSAf" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-08.